Group of students chatting sitting infront of laptops

Mae’r fwrsariaeth cyflogadwyedd yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i helpu wrth ddatblygu gyrfa. Gall eich helpu i gyrchu cyllid er mwyn talu costau sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd, megis teithio i gyfweliadau am swyddi, cael cyfarpar ar gyfer gweithio o bell, dillad busnes ac eitemau tebyg.

Bydd ceisiadau ar agor rhwng 05/02/2024 ac 05/02/2024. Cyflwynwch gais yma nawr.

Cymhwysedd

I gyflwyno cais am y fwrsariaeth, rhaid eich bod chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.  

Mae galw mawr am ein bwrsariaethau. Rhoddir blaenoriaeth i’r myfyrwyr â’r angen mwyaf am gyllid, i helpu i gael gwared â rhwystrau ariannol i gyflogadwyedd.

Ffenestr Geisiadau

Rydym ni’n agor ceisiadau ar gyfer ein bwrsariaeth cyflogadwyedd am gyfnod penodol yn ystod semester un a semester dau. Dyrannwyd yr holl gyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Bydd ceisiadau ar agor rhwng 05/02/2024 ac 05/02/2024. Cyflwynwch gais yma nawr.

Grant Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU) 

Gall Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU) gyflwyno cais am hyd at £100 o gyllid i helpu tuag at ddigwyddiadau rhwydweithio a gyrfaoedd. Gellir cyrchu rhagor o wybodaeth a’r ffurflen gais yma.

Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch ni employmentzone@abertawe.ac.uk

Cysylltwch â Parth Cyflogaeth

Os ydych chi’n wynebu anawsterau ariannol, gall y tîm Arian@BywydCampws eich helpu. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.