Rydyn ni'n darparu amrywiaeth o ddulliau ac adnoddau i'ch helpu i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd. Maen nhw ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Cwrs Datblygu Gyrfa
Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa 16 o unedau sy'n trafod amrywiaeth o bynciau sy'n gallu eich helpu wrth gynllunio eich gyrfa ac mae ar gael ddydd a nos. Cyrchwch yr wybodaeth mae ei hangen arnoch, yn union pan fydd ei hangen arnoch!
Hefyd, mae gennym ni Gwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion sydd wedi'i deilwra'n benodol i'ch cefnogi ar ôl i chi raddio. Er mwyn ei gyrchu, cofrestrwch am ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion.
Cwrs Datblygu Gyrfa
Parth Cyflogaeth
Y Parth Cyflogaeth yw ein hysbysfwrdd swyddi digidol. Rydyn ni'n gweithio gyda chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i hysbysebu lleoliadau gwaith, interniaethau, swyddi rhan-amser a swyddi i raddedigion, sydd oll wedi'u rhestru yn yr un lle.
Hefyd, byddwch chi'n cael mynediad at:
- Ein calendr llawn o ddigwyddiadau; rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar ddod, a chofrestru am ddigwyddiadau sydd ar ddod.
- Apwyntiadau gyrfaoedd: trefnu apwyntiad personol gydag Ymgynghorwyr Gyrfaoedd.
- Llwyth o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys mynediad at blatfformau arbenigol a recordiadau o ddigwyddiadau yn y gorffennol.
Parth Cyflogaeth
Shortlist.me
Gallwch chi baratoi ar gyfer cyfweliadau â'n hofferyn ar-lein Short List Me. Gallwch chi efelychu cyfweliad go iawn, ymarfer, a recordio eich ymatebion, cyn cael cymorth AI (deallusrwydd artiffisial). Gallwch ddewis o amrywiaeth o rolau a sefydliadau sy'n benodol i sectorau penodol i gael profiad perthnasol yn eich maes.
Shortlist.me
Profiling For Success
Gyda Profiling For Success wedi'i ddarparu gan Team Focus, gallwch chi ddysgu rhagor am eich hunan, eich gwerthoedd a swyddi efallai byddwch chi'n eu hoffi. Gall yr offeryn ar-lein hwn eich helpu i archwilio opsiynau gyrfa a chynllunio eich camau nesaf.
Gallwch chi ymarfer ar gyfer yr asesiadau gwahanol sy'n cael eu defnyddio yn y broses recriwtio, gan gynnwys asesiadau ynghylch eich personoliaeth, eich galluoedd, eich cymhelliant a'ch perthnasoedd.
Er mwyn cyrchu Profiling For Success:
- Mewngofnodwch i rwydwaith Prifysgol Abertawe ac yna mewngofnodwch i Profiling for Success.
Os dyma'r tro cyntaf i chi ddefnyddio'r platfform, bydd angen i chi greu cyfrif. Rhowch eich enw cyntaf a rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost, cyn dewis cyfrinair a chlicio ar 'Create Account'. Yna byddwch chi'n cael e-bost sy'n cynnwys dolen i gadarnhau eich cyfeiriad e-bost (gwiriwch eich ffolderi sothach/sbam os na allwch chi ddod o hyd i'r e-bost).
- Os ydych chi’n dychwelyd i’r wefan, mewngofnodwch a rhowch eich manylion mewngofnodi.
- Dewiswch y prawf yr hoffech chi ei gwblhau, e.e. y prawf ynghylch dangosydd cymhelliant ar sail gwerthoedd.
- Yna byddwch chi'n derbyn adroddiad personol drwy e-bost unwaith eich bod chi'n cwblhau’r prawf.
Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost myfyriwr pan ofynnir ichi, gan y bydd hyn yn sicrhau bod eich adroddiadau'n cyrraedd .
Profiling For Success
Forage
Mae Forage yn blatfform sy'n cynnig efelychiadau swyddi gyda chwmnïau o safon fyd-eang! Teclyn arall a fydd yn eich helpu i ragori yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am weithio i Red Bull neu KPMG? Gyda Forage gallwch chi brofi sut beth yw gweithio yn y sefydliadau hynny mewn gwirionedd, wrth feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr i wella'ch cyflogadwyedd. Mae dros 150 o gyflogwyr a 250 o efelychiadau swyddi i chi ddewis ohonyn nhw. Cofrestrwch am Forage a dechreuwch ddysgu heddiw!
Forage
CareerSet
Gyda'i atebion wedi'u pweru gan AI, bydd CareerSet yn cynyddu eich cyfleoedd i gael eich gyrfa berffaith. Bydd yr arf hwn yn eich helpu i deilwra'ch CV a'ch llythyr eglurhaol i'r swydd rydych chi'n cyflwyno cais amdani. A chofiwch, bydd dangos i’r cyflogwr mai chi yw'r ymgeisydd gorau am y swydd yn gwneud i chi sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw ymgeiswyr eraill!
Cofrestrwch heddiw i roi cynnig ar CareerSet
*Os gwnaethoch chi raddio o Brifysgol Abertawe ac mae gennych ddiddordeb mewn defnyddio CareerSet, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm i gael mynediad.
CareerSet
Student Circus
Siop un stop i fyfyrwyr rhyngwladol chwilio am swyddi.
Gyda'r offeryn hwn gallwch chwilio am gwmnïau byd-eang sy'n cyflogi myfyrwyr rhyngwladol a swyddi a noddir gan fisa sydd ar gael mewn marchnadoedd gwahanol. Gallwch hidlo ar sail lleoliadau, sectorau a chwmnïau i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Gallwch ddarllen canllawiau mewnfudo a gofynion sy'n benodol i'r wlad er mwyn gwybod y prosesau i'w dilyn.
Ac os ydych chi'n ystyried mynd nôl adref ar ôl graddio, gall Student Circus eich helpu chi hefyd. Gallwch chwilio am swyddi yn eich mamwlad a byddwch yn gwybod pwy sy'n recriwtio cyn i chi adael y campws.
Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, mae Student Circus yn lle gwych i ddechrau. Cofresta yma
Student Circus
eCareersGrad
Cymorth ar gyfer Cyfweliadau ac Arweiniad sy'n benodol i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Mae ECareersGrad yn blatfform gyrfaoedd rhyngwladol yn seiliedig ar fideo, sy'n darparu tri chwrs i helpu i baratoi myfyrwyr a graddedigion am fyd cystadleuol cyflogaeth i raddedigion. Mae'r cyrsiau gyrfaoedd sydd ar gael yn cynnwys: International Students: Target the Right UK Employer, Interview Success a Master the Commercial & Consulting Case.
eCareersGrad
Academi Agored Santander
Mae Academi Agored Santander yn blatfform dysgu digidol am ddim sydd ar agor i bawb, gan ddarparu cyfleoedd dysgu parhaus gyda mynediad at dros 1,000 o gyrsiau, cynnwys ar alw ac ysgoloriaethau bob blwyddyn. Mae'r pynciau'n cynnwys sgiliau digidol, arweinyddiaeth, technoleg, cynaliadwyedd, sgiliau busnes a mwy.
Gelli di ennill cymwysterau a thystysgrifau, a dysgu unrhyw le, unrhyw bryd, ac mae popeth am ddim. Defnyddia'r platfform rhad ac am ddim i wella dy ragolygon gyrfa ac ennill sgiliau gwerthfawr sy'n cyd-fynd â gofynion y farchnad swyddi heddiw.
*Nid oes angen i ti fod yn gwsmer Santander i gael mynediad at Academi Agored Santander.
Academi Agored Santander
Dilynwch Academi Gyflogadwyedd Abertawe