Rydym ni'n cysylltu cyflogwyr â myfyrwyr a graddedigion diweddar o bob disgyblaeth ar gyfer interniaethau ar lefel raddedig, lleoliadau gwaith, swyddi rhan-amser a chyflogaeth ar lefel raddedig.

Caiff ein rolau eu hysbysebu drwy ein Hysbysfwrdd Swyddi Digidol y Parth Cyflogaeth ac mae ein tîm ymroddedig yma i'ch cefnogi chi yn ystod pob cam o'r broses recriwtio. Sgroliwch i lawr i ddod o hyd i ddetholiad o'r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd ar y wefan.

Eisoes wedi graddio? Peidiwch â phoeni. Gallwch chi gyrchu'r un nodweddion o hyd. Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr gyda'ch e-bost personol.

* Os byddwch chi'n colli mynediad at eich cyfrif, e-bostiwch ni  employmentzone@abertawe.ac.uk i gael mynediad eto.