Sut gallwn ni eich helpu?

Mae tîm MyUniHub yma i'ch helpu i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau cymorth y Brifysgol a'ch helpu i ddatrys unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.

Beth rydym yn ei wneud a ble i ddod o hyd i ni

Mae tîm cyfeillgar MyUniHub yma i helpu gydag ymholiadau cofrestru, cynnig prawf o statws myfyrwyr, a chyfeirio pobl i adrannau a gwasanaethau eraill yn y brifysgol. Os nad ydych yn siŵr pwy i ofyn iddo, dewch i'n gweld ni - rydym bob amser yn ceisio helpu, ac os nad ydym yn gwybod yr ateb, byddwn yn dod o hyd i rywun sy'n gallu helpu.

Ar Gampws Parc Singleton, rydym yn y llyfrgell, drws nesaf i'r ddesg gymorth. Rydym yn adeilad 7.

Ar Gampws y Bae, rydym yng Nghanolfan Wybodaeth y Tŵr. Rydym yn adeilad 9.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Myfyrwyr Rhyngwladol

Globe being held in a person's hand
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
  • Esbonio’n eglur yr hyn y mae ei angen arnoch gennym
  • Bod yn ystyrlon o breifatrwydd eraill sy’n defnyddio ein gwasanaeth
  • Trin ein staff gyda chwrteisi a pharch
  • Cadw pob apwyntiad a drefnwyd
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ohonom Ymholiadau gan rieni/gwarcheidwaid Ymholiadau gan drydydd partïon