myfyrwyr yn lab PC

Sgiliau digidol yw'r ffordd rydych yn trin, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth a chynnwys gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, arloesi, a chreu cynnwys a chyfryngau digidol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Mae'n bwysig deall sut i ddefnyddio a llywio offer digidol yn amgylchedd academaidd a gweithle byd-eang heddiw, sy'n newid yn gyflym. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy'n gallu gweithio'n effeithiol ac yn arloesol â thechnoleg er mwyn gwella effeithlonrwydd a gweithio ar y cyd. Wrth ddatblygu sgiliau digidol, rydych yn gwella eich perfformiad academaidd ac yn meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y dyfodol.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Rydym yn rhoi hyfforddiant ymarferol o ran defnyddio Microsoft Word, Excel, PowerPoint a Publisher er mwyn cefnogi a gwella eich effeithiolrwydd academaidd, gan ddarparu sgiliau digidol i'w defnyddio drwy gydol eich astudiaethau ac yn ystod eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda thempledi arddull academaidd er mwyn perffeithio eich sgiliau o ran fformatio dogfennau, dewis dyluniad a threfnu data.

Rydym yn ymrwymedig i fanteisio i'r eithaf ar offer digidol ac arferion arloesol sy'n rhoi cyfleoedd dysgu cyfoethog a diddorol i chi ar draws pob un o'n cyrsiau a gweithdai, er mwyn hyrwyddo a gwella sgiliau digidol ym mhob peth a wnawn.

Cymerwch olwg at ...