Dyma ap FyAbertawe, y lle i fynd ar gyfer popeth sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe! Bydd gennyt ti fynediad at yr holl hanfodion ar gyfer bywyd fel myfyriwr, i gyd yn yr un lle. Os wyt ti am drefnu dy fywyd yn y brifysgol yn haws, neu os oes angen i ti gael mynediad hwylus at wybodaeth bwysig rhwng darlithoedd, dyma'r ap i ti! 

BETH YW FYABERTAWE?

Mae ap FyAbertawe yn fenter newydd sy'n dod â'r holl hanfodion ar gyfer bywyd fel myfyriwr ynghyd mewn un lle y mae'n hawdd ei gyrchu.

Mae FyAbertawe yn rhoi mynediad uniongyrchol at lawer o nodweddion y mae myfyrwyr yn eu defnyddio bob dydd, megis e-byst, amserlenni a Canvas. Mae'r nodweddion eraill yn cynnwys mapiau o'r campysau, amserlenni bysiau, ap Uni Food Hub, ap SafeZone a llawer mwy!

Felly dyma'r ateb perffaith i bob myfyriwr sydd am wneud bywyd prysur yn y brifysgol ychydig yn haws.

Sut mae dechrau arni?

Mae ap FyAbertawe yn hawdd ei ddefnyddio! A wnei di lawrlwytho'r ap, gan ddefnyddio'r botwm priodol isod. Neu gelli di chwilio am ‘MySwansea’ yn dy siop apiau berthnasol. 

Pan fyddi di wedi’i lawrlwytho, os wyt ti’n fyfyriwr newydd sy’n cyrraedd yn y Brifysgol, dewisa a defnyddia’r botwm ‘Myfrwyr Newydd sy’n Cyrraedd’.

Os wyt ti’n fyfyriwr presennol, dewisa’r botwm ‘Mewngofnodi Myfyrwyr Presennol’ a noda dy fanylion mewngofnodi prifysgol i ddechrau.

Mae mor hawdd â hynny! 

LAWRLWYTHA AP FYABERTAWE HEDDIW!

Gelli di hefyd ddefnyddio fersiwn we o'r ap yma. Fodd bynnag, rydyn ni'n argymell lawrlwytho ap FyAbertawe i gael y profiad cyfan!

CYMORTH A GWYBODAETH YCHWANEGOL

Os wyt ti'n cael trafferthion wrth lawrlwytho, cyrchu a/neu ddefnyddio'r ap, a wnei di sicrhau bod meddalwedd weithredu dy ddyfais symudol yn gyfredol a defnyddia fersiwn ddiweddaraf yr ap bob amser. A wnei di sicrhau dy fod ti'n mewnbynnu manylion mewngofnodi dy gyfrif yn y brifysgol yn gywir.

Os wyt ti'n dal i gael trafferthion, gelli di roi gwybod am y broblem drwy'r Ddesg Gymorth TG.