myfyriwr yn astudio mewn crys-t melyn

Mae Canolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig cyngor arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau academaidd. Mae’r ddarpariaeth hyn wedi ei deilwra ar gyfer y cyd-destun Gymraeg, a rhoddir sylw i anghenion penodol myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys ymarferion dwyieithog, technoleg a meddalwedd priodol, yn ogystal i’r sgiliau sy’n gyffredin i fyfyrwyr o unrhyw iaith - meddwl yn feirniadol, cyfansoddi dadl, cyfeirio ac aralleirio, a sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio. 

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig?

Raglen fywiog ac amrywiol o gyrsiau ac adnoddau e-ddysgu, a gweithdai wynebol cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhain yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio eu cyrsiau’n rhannol neu’n hollol trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae’r sesiynau hyn yn rhedeg trwy’r flwyddyn academaidd yn fyw ac arlein er mwyn eich cefnogi chi i ddatblygu’r sgiliau academaidd sy’n hanfodol i lwyddo - beth bynnag eich maes pwnc neu lefel astudio. Yn ogystal â’r rhaglen graidd, rydym hefyd yn cynnal gweithdai achlysurol fel rhan o’n wythnosau sgiliau ysgrifennu ac astudio. Ynghyd â’n gweithdai, rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau 1:1 arlein/wyneb wrth wyneb gyda thiwtor CAS cyfrwng Cymraeg er mwyn trafod unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych am eich gwaith. Gallwch archebu hyd at un apwyntiad yr wythnos trwy ein system archebu apwyntiadau ar-lein. 

Cymerwch olwg ar Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg ..