RHANNU ADBORTH, CANMOLIAETH, GOFYN CWESTIWN NEU GYNNIG AWGRYM

Unitu yw EICH platfform Llais Myfyrwyr. Lle ar-lein diogel ydyw lle gall myfyrwyr, cynrychiolwyr a staff godi, trafod a datrys materion academaidd neu broblemau cyffredinol myfyrwyr ar y cyd, rhoi canmoliaeth, awgrymu syniadau neu bostio adborth adeiladol yn anhysbys.

Mae'n galluogi'r Brifysgol i ymateb i adborth a gweithredu arno mewn amser go iawn i sicrhau bod gennych y profiad myfyriwr gorau posib gyda ni yma yn Abertawe.

Mae Unitu wedi ennill Gwobr Arloesedd Technolegol THE yn 2019. Canmolodd y beirniaid y platfform am "chwyldroi’r ffordd y mae'r Brifysgol yn ymgysylltu â dysgwyr ynghylch materion allweddol, megis lles a thrafnidiaeth”.

Dyma ychydig yn unig o enghreifftiau o sut mae eich adborth wedi ein helpu i wella:

- Bellach mae nifer o fannau newydd i fyfyrwyr
- Mae oriau agor lleoedd astudio dros y penwythnos wedi cael eu hestyn mewn dau leoliad
- Rhoddwyd croesfan newydd ar Gampws y Bae
- Cyflwynwyd arwyddion gwell ar gyfer mannau ail-lenwi dŵr
- Wi-Fi gwell ym mhreswylfeydd y Bae
- Cafodd ffyrnau micro-don eu rhoi yn Llyfrgell Singleton

Together we Changed Logo
Unitu logo

Felly, sut mae'n gweithio?

Mae Unitu wedi'i strwythuro fel bwrdd trafod, ac wedi'i rannu'n ddwy ardal. I ddechrau, gallwch ofyn cwestiynau, postio syniadau a chodi materion rhyngoch chi a'ch cyfoedion yn breifat. Os bydd pwnc yn derbyn digon o sylwadau a hoffter, bydd eich Cynrychiolydd yn symud y drafodaeth i'r ail faes lle gall staff ei weld ac yna weithio gyda chi i ddatrys materion neu ddatblygu syniadau.

Gwyliwch fideo Anish, Sefydlwr a Phrif Swyddog Gweithredu Unitu, lle mae'n rhoi rhagor o fanylion am sut yn union mae'r platfform yn gweithio!