Mae Twbercwlosis (TB) yn haint sy'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf ond gall effeithio ar unrhyw ran o'r corff, gan gynnwys yr abdomen, yr esgyrn a'r system nerfol.   

Caiff ei ledaenu drwy fewnanadlu diferion bach iawn pan fydd pobl eraill â'r haint yn pesychu neu'n tisian.

Gellir trin TB gyda gwrthfiotigau ond gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin.

 

RHAGOR O WYBODAETH YNGHYLCH TB