Beth sydd ynghlwm wrth hyn?

Hoffem wybod mwy am eich iechyd cyffredinol, eich lles a'ch gallu i ffynnu yn ystod eich amser yn y brifysgol.

Drwy ateb cwestiynau ynghylch y ffynonellau cymorth rydych yn eu ceisio, eich ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael a'ch profiadau o wasanaethau lles y Brifysgol, byddwch yn rhoi i ni wybodaeth werthfawr am sut dylen ni ddyrannu adnoddau i gefnogi myfyrwyr.

Mae'n cymryd tua 15 munud i gwblhau'r arolwg hwn, ac i ddiolch i chi, bydd pawb sy'n ymateb yn derbyn taleb £3 i'w defnyddio i brynu bwyd ar y campws. Bydd eich enw hefyd yn cael ei gynnwys mewn raffl i ennill talebau Amazon gwerth £25.

survey logo

Beth yw'r diben?

Mae iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn flaenoriaeth i brifysgolion ledled y DU, fodd bynnag mae ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles yn gyfyngedig. Hoffem sicrhau bod y Brifysgol yn darparu'r gwasanaethau cymorth priodol sy'n diwallu anghenion myfyrwyr, a bod myfyrwyr yn gwybod ble a sut i fanteisio ar y cymorth hwn.

Bydd yr arolwg hwn yn cyfrannu at astudiaeth genedlaethol a arweinir gan NHS Southern Health a fydd yn cyfuno canfyddiadau prifysgolion ledled y DU i lunio polisi cenedlaethol a sicrhau bod darpariaethau cymorth yn cael eu hariannu'n ddigonol i ddiwallu anghenion myfyrwyr.

Cyfle i ddweud eich dweud

Oes gennych chi 15 munud i'n helpu i ddeall iechyd meddwl a lles myfyrwyr a beth sy'n effeithio ar ansawdd bywyd myfyrwyr?

cymryd yr arolwg

Cwestiynau Cyffredin