Beth fydd cost eich cwrs?

Mae pecynnau cymorth ariannu gwahanol ar gael ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.

Dewch o hyd i ba gymorth ariannol yr ydych yn gymwys i'w dderbyn cyn i chi gofrestru a gwnewch gais o fewn y dyddiadau cau a osodir i sicrhau bod eich cymorth ariannol yn ei le erbyn i chi gyrraedd.

Costau Ffioedd Dysgu ar gyfer 202425

Ynysoedd y Sianel

Bydd myfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn talu £9250 (beth bynnag yw eu meysydd pwnc) ond efallai y cânt eu cynyddu yn ystod y blynyddoedd i ddod gan swm chwyddiannol a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth i Raddedigion (GEM) a Nyrsio

  • Gwaith Cymdeithasol a Meddygaeth i Raddedigion (GEM): £9250 fydd y Ffioedd Dysgu.
  • Cyrsiau Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol a Gofal Iechyd: Os ydych chi wedi'ch ariannu gan y GIG (ffioedd a bwrsariaeth) telir costau eich ffioedd yn llawn. Os nad ydych chi wedi'ch ariannu gan y GIG cost y Ffioedd Dysgu fydd £9250.

I dderbyn gwybodaeth ariannu ychwanegol am y rhaglenni arbenigol uchod, ewch i’n tudalennau Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr ar y we.

Dolenni defnyddiol