Ewch i sesiwn galw heibio wythnosol
Mae ein sesiynau galw heibio ar Gampws Parc Singleton wedi dechrau! Bob dydd Mercher rhwng 12.30pm a 2.00pm rydyn ni ym Mloc y Stablau, Abaty Singleton - dewch i'n gweld ni!
Ni fyddwn yn cynnal ein sesiynau galw heibio o dydd Gwener 3 Mai, yn ystod cyfnod yr arholiadau a'r haf. Bydd y sesiynau galw heibio wythnosol yn ailddechrau ar ddechrau'r tymor newydd.
Cadwch lygad am y manylion diweddaraf yma, a chadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am ymweliadau cyflogwyr! Rydyn ni wedi trefnu llawer i chi ar gyfer y flwyddyn academaidd hon!
Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Rydym yn cynnig arweiniad cyfrinachol a ddiduedd i'ch helpu chi i wneud dewisiadau am eich addysg a'ch cynlluniau o ran gyrfa, gan gynnwys:
- archwilio eich opsiynau pan nad ydych yn siŵr o'r hyn i'w wneud ar ôl graddio
- gwella eich ceisiadau a'ch datganiadau personol ôl-raddedig
- eich helpu os ydych yn ystyried newid neu adael eich cwrs
- cynllunio eich camau nesaf
- hyfforddiant at gyfweliadau i wella eich technegau cyfweld
Gallwch drefnu apwyntiad 30 munud yn uniongyrchol drwy'r ddolen hon. Cewch eich annog i greu eich proffil wrth i chi ddefnyddio'r Parth Cyflogaeth am y tro cyntaf. Gallwch drefnu apwyntiad o'r tab ar ochr dde'r faner werdd ar ôl i chi wneud hyn.