Gwneud Penderfyniadau

Gwneud Penderfyniadau

Gwneud Penderfyniadau

Rydym yn gwneud miloedd o benderfyniadau bob diwrnod. Gall penderfyniadau ynghylch gyrfa fod yn anodd ac yn gymhleth. Sut ellwch chi ddatblygu'ch sgiliau penderfynu er mwyn gwneud gwell dewisiadau am eich dyfodol?

Y man cychwyn yw'r 2 gwestiwn allweddol hyn:-

  1. Beth ydw i eisiau o fywyd?
  2. Sut fydda i'n ei gael?

Dyma un model ar gyfer gwneud penderfyniadau (Chip and Dan Heath):

Gall y model hwn fod yn ddefnyddiol wrth i chi wneud penderfyniadau ynghylch eich dyfodol:-

  • Ehangu'ch opsiynau
  • Profi realiti'ch rhagdybiaethau
  • Pellter
  • Bydd yn barod i wneud camgymeriad

Mae adnoddau defnyddiol ar gael sy'n esbonio hyn yn fwy manwl:  http://heathbrothers.com/resources/

Meddyliwch am sut yr ydych yn gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd

Mae nifer o ddulliau o wneud penderfyniadau. Does dim tystiolaeth i awgrymu bod yr un yn fwy effeithiol na'r lleill. Mae'n bwysig i chi werthuso sut yr ydych chi wedi gwneud penderfyniadau effeithiol yn y gorffennol, gan ystyried pa ddull byddwch chi'n ei ddefnyddio am y penderfyniad nesaf.

Dulliau o wneud penderfyniadau:-

  • manteision ac anfanteision
  • dilyn eich greddf
  • hap trwy gynllunio - hynny yw, creu cyfleoedd
  • siarad â chyfeillion, teulu, neu ddefnyddio'n cred

Cwblhewch y cwis canlynol i ddeall sut yr ydych chi'n gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd:-

http://pebblepad.swan.ac.uk/download.aspx/166928/index_flash.htm?allowscript=true

Sut i wneud dewis anodd

Trafodaeth TED ddiddorol ar wneud penderfyniadau:-

https://www.youtube.com/watch?v=8GQZuzIdeQQ

Close
Close dashboard

Your user name is the first part of your Swansea University e-mail address before the @ symbol.

If your email address is 123456@swansea.ac.uk then your user name is 123456. Use your normal University password.

If you have problems logging in using your username and password then please contact IT Support, telephone:(01792 29) 5060.

You can change your password at My Password

Accessible Version