Cyflogadwyedd a sgiliau gwaith

Cyflogadwyedd a sgiliau gwaith

Gwneud cyflogadwyedd yn hawdd!

Mae'r fideo hwn yn esbonio beth y mae cynllunio Cyflogadwyedd, Sgiliau a Datblygiad Personol yn ei olygu i chi.

Mae gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)lawer o ddiffiniadau tebyg o'r enghraifft ganlynol:

"Cyfres o briodoleddau, sgiliau a gwybodaeth y dylai fod gan holl gyfranogwyr y farchnad lafur i sicrhau bod ganddynt y gallu i fod yn effeithiol yn y gweithle - er lles eu hunain, eu cyflogwyr a'r economi ehangach."

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) wedi uno â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i ysgrifennu Working Towards Your Future - arweiniad syml i'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae'n rhesymoli "cyflogadwyedd" ac yn rhoi llawer o gyngor defnyddiol ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd drwy waith cwrs, gweithgareddau cymdeithasol, gwirfoddoli a phrofiad gwaith er mwyn gwneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol.

Mae datblygu cyflogadwyedd yn broses ailadroddol o fyfyrio, dysgu a chael profiad.

Sgiliau gwaith:  Sgiliau y gallwch eu trosglwyddo i fyd gwaith ac o un swydd i'r llall wrth i chi ennill profiad.

Sylwch: Gweler y dolenni isod hefyd i adnoddau ar-lein i’ch helpu i adnabod a datblygu’r sgiliau sydd gennych.

Mae gan bob sgìl (a gwybodaeth) botensial ar gyfer eu trosglwyddo o'r sefyllfa lle y'u dysgwyd i sefyllfaoedd eraill. I raddedigion, y prif feysydd trosglwyddo yw o astudio academaidd, interniaethau/lleoliadau profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, gweithgareddau allgyrsiol, teithio... i gyflogaeth.

Byddwch yn dod ar draws cyfeiriadau at "sgiliau allweddol" neu "sgiliau craidd" cyffredinol yn aml am eu bod yn bwysig ym mhob sector cyflogaeth a swydd, er enghraifft:

  • Cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
  • Rhifedd
  • Technoleg gwybodaeth
  • Trafod/argyhoeddi
  • Hyblygrwydd/gallu i addasu
  • Gwaith tîm
  • Arweinyddiaeth
  • Trefnu/cynllunio
  • Dadansoddi a datrys problemau

Mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau cyffredinol lefel uwch gan raddedigion, megis:

  • Blaengarwch
  • Rheoli risg ac ansicrwydd
  • Mentrusrwydd
  • Meddwl creadigol

Byddwch yn ennill sgiliau deallus (neu wybyddol) drwy astudio unrhyw ddisgyblaeth gradd, er enghraifft:

  • Gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a'i dehongli;
  • Gallu cynnal dadl resymegol a dod i gasgliad y gellir ei amddiffyn yn rhesymol;
  • Dadansoddi a chyfosod gwybodaeth;
  • Gallu cymharu a chyferbynnu esboniadau damcaniaethol ac integreiddio methodolegau gwahanol;
  • Meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol barseli gwybodaeth;
  • Gwerthuso ymarfer proffesiynol a herio tybiaethau;
  • Modelu problemau yn fathemategol a'u datrys yn feintiol.

Mae hefyd sawl agwedd y rhoir gwerth mawr iddynt ochr yn ochr â'r sgiliau hyn:

  • Cynllunio'ch prosiectau yn gadarn;
  • Ymwybyddiaeth o faterion moesegol, gwybod beth yw cyfyngiadau eich data a'r technegau a ddefnyddir i'w casglu a'u dadansoddi;
  • Cadw meddwl agored i heriau i'r sefyllfa bresennol a bod yn barod i archwilio problem o sawl safbwynt;
  • Rhesymu o dystiolaeth wrth oddef dehongliadau eraill o'r dystiolaeth honno;
  • Ymwybyddiaeth o fylchau yn eich gwybodaeth a bod yn barod i ddysgu gan eraill yn ogystal ag yn annibynnol.

Adnoddau i'ch helpu i adnabod ac adolygu'ch sgiliau:

Bydd yr adnoddau canlynol yn eich helpu i ddeall a datblygu'r sgiliau craidd a'r sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan raddedigion.

Mae Profiling for Success yn wasanaeth ar-lein sydd AM DDIM i'n holl fyfyrwyr. Mae'n cynnig offer hunanasesu i'ch helpu i wirio'ch sgiliau mewn meysydd megis rhifedd, llythrennedd a rhesymu geiriol, a hefyd i ddadansoddi'r hyn sy'n eich ysgogi, yr hyn sy'n gwneud ichi weithio a beth yw eich arddull ddysgu - gall y ffordd rydych yn dysgu orau fod yn arwydd defnyddiol iawn o'r math o amgylchedd gwaith fyddai orau ar eich cyfer.

E-ddysgu Sgiliau Busnes (Mae angen i chi fewngofnodi i MyUni i ddilyn y ddolen hon): Mae hon yn set o gyrsiau rhyngweithiol sy'n cwmpasu: Sgiliau Cyfarfod, gwasanaethau cwsmeriaid, cyd-drafod, sgiliau cyflwyno, rheoli prosiectau, sgiliau gwaith tîm, datrys problemau, yn ogystal â sgiliau datblygiad personol, gan gynnwys pennu blaenoriaethau, cynllunio amser, gwneud penderfyniadau a dirprwyo.

Adrannau ar wefan Graduate Prospects:

Eich gradd... beth nesaf? Mae yn rhoi help gyda datblygu'ch ymwybyddiaeth sgiliau yng nghyd-destun eich diddordebau, eich personoliaeth, eich gwerthoedd a'r hyn sy'n eich ysgogi.

Gwneud cais am swyddi – pa sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt

Adrannau ar wefan TARGETjobs:

Sgiliau a chymwyseddau i raddedigion

Sgiliau mentergarwch: cymryd cyfleoedd a'u cyflawni

Deallusrwydd emosiynol: beth mae gweithio gydag eraill yn ei gynnwys

Datrys problemau: arwydd o weithiwr annibynnol

Close
Close dashboard

Your user name is the first part of your Swansea University e-mail address before the @ symbol.

If your email address is 123456@swansea.ac.uk then your user name is 123456. Use your normal University password.

If you have problems logging in using your username and password then please contact IT Support, telephone:(01792 29) 5060.

You can change your password at My Password

Accessible Version