Ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig

Ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig

Nid yw arian yn cael ei ddyfarnu'n awtomatig a gall ddod o amrywiaeth o ffynonellau, er enghraifft:

  • Cynghorau Ymchwil:  Cyrff cyhoeddus yw'r rhain sy'n cefnogi ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae'n rhaid cyflwyno cais am arian gan y Cyngor Ymchwil drwy'r sefydliad lle rydych yn gobeithio astudio.
  • Prifysgolion unigol
  • Ymddiriedolaethau elusennol
  • Eich cynilion a'ch enillion eich hun
  • Benthyciadau
  • Weithiau bydd cyflogwyr yn ariannu cymwysterau penodol
  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodthae: Mae'r partneriaethau hyn yn darparu cyfleoedd â thâl i academyddion ddefnyddio eu gwybodaeth mewn prosiectau sy'n ymwneud â busnes, gan ymgymryd ag ymchwil ac ennill sgiliau rheoli a chymwysterau ar yr un pryd.

Ewch i dudalennau gwefan Prifysgol Abertawe ar ffioedd ac ariannu.

Gwefannau’n cynnig gwybodaeth ar Gynllun Benthyciadau Ôl-raddedig Llywodraeth y DU:

Mae Graduate Prospects a TARGETpostgrad yn fannau cychwyn ardderchog i'ch helpu i ymchwilio i ffynonellau cyllid i gyflwyno cais iddynt:

Ffynonellau ychwanegol o wybodaeth ddefnyddiol:

  • The Grants Register 2014: yr arweiniad cyflawn i gyllid byd-eang i raddedigion. Mae ar gael yng Nghasgliad Cyfeirio Neuadd Astudio'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth, Rhif Galw: LB2338.G73 2013
  • The Alternative Guide to Postgraduate Funding Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael i staff a myfyrwyr presennol y Brifysgol drwy'r cwrs Cynllunio Gyrfa Rhyngweithiol o dan y 'Modiwlau Cyfredol' ar Blackboard. Mae'r arweiniad, sy'n cael ei gyhoeddi gan GradFunding, yn manylu ar sut i ddod o hyd i ffynonellau cyllid eraill - yn enwedig elusennau - sy'n dyfarnu arian i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr, a sut i wneud cais iddynt. Mae rhai pobl yn diystyru elusennau fel ffynhonnell cyllid ond maent yn dyfarnu arian yn aml i fyfyrwyr ni waeth beth yw eu cenedligrwydd na'u pwnc.
  • Cyhoeddiadau proffesiynol megis New Scientist 
  • www.postgraduatestudentships.co.uk/ - dyma wefan sy'n dod â gwahanol fathau o gyfleoedd cyllid ynghyd, sydd ar agor i ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig, rhai a addysgir a thrwy ymchwil.
  • Scholarship Search - ffynonellau cyllid i israddedigion a graddedigion
  • Postgrad.com canllaw i gyllid myfyrwyr 
  • Scholarships Times - ysgoloriaethau rhyngwladol/newyddion am gymorth ariannol ar gyfer addysg uwch
  • Rhaglen grantiau addysg Family Action 
  • Turn2us: mae'r gwasanaethau'n cynnwys cronfa ddata y gellir ei chwilio o elusennau sy'n rhoi grantiau
  • Postgraduatefunding.com - gwybodaeth am grantiau bach ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys: grantiau atodol, bwrsariaethau teithio, cyllid ar gyfer rhaglenni cyfnewid, grantiau costau byw, cynlluniau hepgor ffioedd a chyllid ar gyfer graddau Meistr.
Close
Close dashboard

Your user name is the first part of your Swansea University e-mail address before the @ symbol.

If your email address is 123456@swansea.ac.uk then your user name is 123456. Use your normal University password.

If you have problems logging in using your username and password then please contact IT Support, telephone:(01792 29) 5060.

You can change your password at My Password

Accessible Version